Psalms 9

Diolch i Dduw am ei gyfiawnder

I'r arweinydd cerdd: Salm i leisiau merched. Salm Dafydd.

1Addolaf di, Arglwydd, o waelod calon;
a sôn am yr holl bethau rhyfeddol wnest ti.
2Byddaf yn llawen, a gorfoleddaf ynot.
Canaf emyn o fawl i dy enw, y Goruchaf.
3Pan mae fy ngelynion yn ceisio dianc,
maen nhw'n baglu ac yn cael eu dinistrio o dy flaen di,
4am dy fod ti'n camu i mewn a gweithredu ar fy rhan i.
Ti'n eistedd ar yr orsedd ac yn dyfarnu'n gyfiawn.
5Ti sy'n ceryddu'r cenhedloedd,
yn dinistrio'r rhai drwg,
ac yn cael gwared â nhw am byth bythoedd!
6Mae hi ar ben ar y gelyn!
Mae eu trefi'n adfeilion,
a fydd neb yn cofio ble roedden nhw.
7Ond mae'r Arglwydd yn teyrnasu am byth!
Mae ar ei orsedd, yn barod i farnu.
8Bydd yn barnu'n deg,
ac yn llywodraethu'r gwledydd yn gyfiawn.
9Mae'r Arglwydd yn hafan ddiogel
i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu –
yn hafan pan maen nhw mewn trafferthion.
10Mae'r rhai sy'n dy nabod di yn dy drystio di.
Dwyt ti ddim yn troi cefn
ar y rhai sy'n dy geisio di, O Arglwydd.
11Canwch fawl i'r Arglwydd sy'n teyrnasu yn Seion!
Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud!
12Dydy e ddim yn diystyru cri y rhai sy'n dioddef;
mae'r un sy'n dial ar y llofruddion yn gofalu amdanyn nhw.
13Dangos drugaredd ata i, O Arglwydd;
edrych fel mae'r rhai sy'n fy nghasáu yn gwneud i mi ddioddef.
Dim ond ti all fy nghadw rhag mynd trwy giatiau marwolaeth.
14Wedyn bydda i'n dy foli di
o fewn i giatiau Seion hardd.
Bydda i'n dathlu am dy fod wedi fy achub i!
15Mae'r cenhedloedd wedi llithro i'r twll wnaethon nhw ei gloddio;
a'u traed wedi mynd yn sownd yn y rhwyd wnaethon nhw ei chuddio.
16Mae'r Arglwydd wedi dangos sut un ydy e!
Mae e'n gwneud beth sy'n iawn.
Mae'r rhai drwg wedi eu dal gan eu dyfais eu hunain.

 (Yn ddwys:)

 Saib
17Bydd y rhai drwg yn mynd i fyd y meirw.
Dyna dynged y cenhedloedd sy'n diystyru Duw!
18Ond fydd y rhai mewn angen ddim yn cael eu hanghofio am byth;
fydd gobaith ddim yn diflannu i'r rhai sy'n cael eu cam-drin.
19Cod, O Arglwydd!
Paid gadael i ddynion meidrol gael eu ffordd!
Boed i'r cenhedloedd gael eu barnu gen ti!
20Dychryn nhw, O Arglwydd!
gad iddyn nhw wybod mai dim ond dynol ydyn nhw!

 Saib
Copyright information for CYM